22/6/10 Mynydd Dinas
Galwad i SteveJ a AndyH a'r ddau yn gyrru nôl o Nant y Moel gan ei bod hi'n rhy wyntog. Y ddau am drio Mynydd Dinas. Mae hwn y safle newydd i fi sydd yn ymyl yr M4 yn Port Talbot. Ar ôl parcio a cherdded i'r top dwi'n dechrau sylweddoli fy mod yn mynd i gael hedfan dros y draffordd! Waw! Dwi wedi edrych i fyny ar y bryn wrth yrru heibio o'r blaen gan feddwl a oedd modd hedfan ar ei draws.
SteveJ oedd i ffwrdd gyntaf yn dangos lle i ffeindio'r codiadau (!). Dwi'n teimlo'n fwy cyfforddus i fynd i ffwrdd o lefydd fel hyn ar ôl y cwrs SIV yn Nhwrci ac felly o'n i i ffwrdd hefyd mewn dim amser. Roedd yr aer yn ddigon i aros i fyny yn weddol rwydd gyda ambell i thermal cryf ond tenau. Bron yn syth ar ôl lansio roedd yna farcud yn hedfan am rhai eiliadau dim ond medrau i ffwrdd. Dyma'r ail waith mewn llai nag wythnos i hyn ddigwydd a dwi dim ond yn gobeithio fy mod wedi ei ddal ar y camera. Roedd golygfeydd hyfryd o Port Talbot, Abertawe a'r cannoedd o geir oedd yn gyrru heibio! Roedd siŵr o fod pobl yn cadw llygaid ar y tri ohonom ni hefyd!
Ar ôl rhyw awr o geisio dilyn y lleill a cheisio mentro mor bell i'r draffordd nes i'r camgymeriad o ddilyn y bryn gormod i'r dwyrain. Ar y ffordd yn ôl tuag at y gorllewin o'n i'n suddo yn gyflym. Nes i gofio'r briff gan y bechgyn cynt ac unwaith o'n i'n is na'r llwybr roedd hi'n hwyl fawr ac i ffwrdd am y glanio...mewn parc yr ochr arall i'r draffordd!
Does dim angen poeni yn ormodol am y draffordd. Ydy mai'n creu gofid ychydig ond o'n i wedi dewis fy man glanio ac yn canolbwyntio ar gyrraedd y man yna. Wedi glanio yn daclus dechreuodd rhai o'r plant lleol ddod draw i'n cyfarch. Wedi pacio roedd rhaid siarad gyda'r heddlu oedd hefyd wedi'n gweld ni wrthi! Ydy, mae'r safle yma yn un cyhoeddus iawn!
1 awr - Cyfanswm 26 awr.